Croeso i Dribiwnlys Addysg Cymru

Mae Tribiwnlys Addysg Cymru yn gwneud penderfyniadau ar apeliadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig, a rhai ar hawliadau’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.

Mae Tribiwnlys Addysg Cymru yn delio ag anghydfodau’n ymwneud â’r canlynol:

Cynlluniau datblygu unigol (CDUau)

Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed am gynllun datblygu unigol (CDU) neu asesiad o anghenion dysgu ychwanegol, defnyddiwch y canllawiau ar y wefan hon. I’r disgyblion hyn, mae llawer o reolau wedi newid, felly rydym wedi diweddaru’r canllawiau ar y wefan hon.

Hawliadau’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd

Gall plant, eu rhieni, a phobl ifanc wneud hawliad ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgol i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC).Sylwch y dylai Hawliadau'n ymwneud â Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn erbyn Sefydliadau Addysg Bellach (SAB) gael eu gwneud i'r Llys Sirol.

Datganiadau o anghenion addysgol arbennig

Os ydych yn anghytuno â datganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA), neu â phenderfyniad a wnaed o dan y system AAA, dylech ddefnyddio’r canllawiau ar ein hen wefan.

Trefniadau swyddfa'r Tribiwnlys

Mae’r tribiwnlys yn parhau i weithio o bell, gyda mynediad cyfyngedig at eitemau a anfonir trwy’r post.  Os yn bosibl, gofynnwn i chi anfon unrhyw ddogfennau sydd eu hangen ar y tribiwnlys (yn cynnwys ffurflenni cais a datganiadau ysgrifenedig) trwy e-bost i  tribiwnlysaddysg@llyw.cymru

Os nad yw hyn yn bosibl, dylech gysylltu â swyddfa’r tribiwnlys ar 0300 025 9800 i wneud trefniadau eraill.

Mae’r tribiwnlys yn rhestru gwrandawiadau fel arfer. Serch hynny, dylech nodi fod mwyafrif yr achosion yn cael eu rhestru’n rhithiol, yn defnyddio llwyfan fideo y Tribiwnlys.

Cofnodi Gwrandawiadau'r Tribiwnlys

Sylwch nad yw'r Tribiwnlys yn recordio gwrandawiadau. Mae'n drosedd i unrhyw un recordio gwrandawiadau'r tribiwnlys, yn cynnwys tynnu ffotograffau, recordiadau sain a fideos.

Yr iaith Gymraeg

Cymraeg-logo 

Gallwch ddewis i'ch Tribiwnlys gael ei gynnal yn Gymraeg neu yn Saesneg. Gallwch hefyd gyfathrebu gyda'r Tribiwnlys yn un o'r ddwy iaith.

Ein cefndir

Mae Tribiwnlys Addysg Cymru (TAC) yn gwrando ar apelau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol, neu anghenion addysgol arbennig, plant a phobl ifanc, ac yn gwneud penderfyniadau arnynt, yn ogystal ag am hawliadau’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.

Mae TAC yn dribiwnlys annibynnol. Mae wedi’i gyllido gan y llywodraeth, ond mae ei aelodau a’r penderfyniadau y mae’n eu gwneud yn gwbl annibynnol ar y llywodraeth, ac ar bob corff arall. Mae ei benderfyniadau yn rhai sy’n rhwymo awdurdodau lleol a chyrff cyfrifol i ddilyn ei orchmynion.

Darperir gwybodaeth ystadegol a chofnod blynyddol o’r gweithgareddau yn yr adroddiad blynyddol.

Dysgwch fwy

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth rydych yn chwilio amdano.

Dysgwch fwy