Canllawiau a ffurflenni

Mae gwybodaeth ynghylch pa bryd a sut rydych yn gallu gwneud apêl neu gyflwyno hawliad i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC) ar gael yn ein llyfrynnau canllaw.

Rhestr o ddolenni i’n holl lyfrynnau canllaw a’n ffurflenni yw’r Gofrestr Cyhoeddiadau. Lawrlwythwch nhw o’r wefan hon neu cysylltwch â ni os hoffech inni anfon copïau atoch drwy’r post. Bydd angen ichi anfon ffurflenni a gwblhewch drwy e-bost neu drwy’r post at Dribiwnlys Addysg Cymru.

Apeliadau

Gall plant, eu rhieni a phobl ifanc apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn rhai penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol Cymru ynghylch anghenion dysgu ychwanegol. Rhaid ichi roi gwybodaeth inni yn ysgrifenedig. Mae gennym ganllawiau a ffurflenni i’ch helpu drwy’r broses.

Dim ond apeliadau sy’n ymwneud â phenderfyniadau gan awdurdodau lleol y gall y Tribiwnlys eu derbyn. Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a wneir gan ysgol, dylech ofyn i’ch awdurdod lleol adolygu’r penderfyniad yn gyntaf. Rhaid i’ch awdurdod lleol roi gwybod ichi beth yw ei benderfyniad, a phryd y cewch apelio i’r Tribiwnlys.

Dysgwch fwy am apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru

Hawliadau

Gall plant, eu rhieni a phobl ifanc wneud hawliad ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgol drwy roi gwybod inni am driniaeth annheg ar sail anabledd. Rhaid ichi roi gwybodaeth inni yn ysgrifenedig. Mae gennym ganllawiau a ffurflenni i’ch helpu drwy’r broses.

Dysgwch fwy am wneud hawliad o wahaniaethu ar sail anabledd

Plant a phobl ifanc

Os ydych am gael gwybod mwy, mae gwybodaeth hylaw i deuluoedd ar ein tudalen i blant a phobl ifanc am apeliadau, hawliadau a gwrandawiadau’r tribiwnlys. Cewch wybod hefyd sut i gysylltu â ni neu ag eraill a allai eich helpu.

Dod o hyd i wybodaeth i blant a phobl ifanc am Dribiwnlys Addysg Cymru

Awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach

Mae gennym lyfrynnau canllaw sy’n helpu awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach i ymateb i apelau.

Dod o hyd i ganllawiau i awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach

Cyrff Cyfrifol

Mae gennym lyfrynnau canllaw sy’n helpu cyrff cyfrifol i ymateb i hawliadau’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd.

Dod o hyd i ganllawiau i gyrff cyfrifol