Galluedd

Gall cyfeillion achos gynorthwyo plant nad oes ganddynt alluedd, a'u helpu i arfer eu hawliau, neu weithredu ar eu rhan. Gall rhai cynrychiolwyr wneud yr un peth i bobl ifanc a rhieni plant sydd heb alluedd.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod plentyn nad oes ganddo’r galluedd i ddeall:

  • gwybodaeth neu ddogfennau y mae’n rhaid eu rhoi iddo mewn perthynas â’i anghenion dysgu ychwanegol; neu
  • yr hyn y mae’n ei olygu i arfer yr hawliau a roddir iddo o dan y system ADY;

yn blentyn nad oes ganddo alluedd at ddibenion y Ddeddf.

Mae’r diffiniad ar gyfer pobl ifanc a rhieni plant nad oes ganddynt alluedd yn y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn dilyn yr un ystyr â ‘lacking capacity’ yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae’n golygu person nad oes ganddo’r galluedd i wneud penderfyniad penodol neu i wneud rhywbeth penodol drosto’i hun ar yr adeg y mae angen penderfynu neu weithredu.

Gweler ein llyfrynnau canllaw isod i gael mwy o wybodaeth.

Llyfrynnau canllaw

  • Plant nad oes ganddynt alluedd, a chyfeillion achosMae'r llyfryn canllaw hwn yn darparu gwybodaeth bellach am hawliau plant sydd heb alluedd, a canllawiau i ffrindiau achos a all eu cefnogi. (Plant nad oes ganddynt alluedd, a chyfeillion achos – TAC9)
  • Pobl ifanc, neu rieni plant, nad oes ganddynt allueddMae'r llyfryn yma yn rhoi mwy o wybodaeth am hawliau pobl ifanc a rhieni plant sydd heb alluedd, a phwy all eu cynrychioli. (Pobl ifanc, neu rieni plant, nad oes ganddynt alluedd – TAC10)

Ffurflenni

  • Ffurflen gais am ddatganiad o allueddGallwch wneud cais i'r Tribiwnlys am ddatganiad o alluedd. Mae hwn yn benderfyniad gan y Tribiwnlys sy'n cadarnhau bod gan blentyn alluedd neu nad oes ganddo alluedd. (Ffurflen gais am ddatganiad o alluded – TAC11)
  • Ffurflen gais am ffrindiau achosMae'r ffurflen hon ar gyfer pobl sy'n dymuno gweithredu fel ffrindiau achos i blant sydd heb alluedd. (Ffurflen gais am ffrindiau achos – TAC13)