Amdanom ni

Mae Tribiwnlys Addysg Cymru yn dribiwnlys statudol.

Mae'n gyfrifol am wrando a phenderfynu ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach am anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc, neu anghenion addysgol arbennig. Mae hefyd yn gyfrifol am ymdrin â honiadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion yng Nghymru.

Gall plentyn, rhiant plentyn, neu berson ifanc wneud apeliadau a hawliadau. Gall plentyn neu berson ifanc sydd am wneud ei apêl neu ei hawliad ei hun wneud hynny ar ei ben ei hun, neu gall gael cymorth i wneud hynny.

Ffeithiau allweddol

  • Mae Tribiwnlys Addysg Cymru yn dribiwnlys annibynnol a sefydlwyd yn 2003, trwy Adran 333 (1ZA) o Ddeddf Addysg 1996. Ar y pryd, fe'i gelwid yn Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC).
  • Mae'r tribiwnlys yn gwasanaethu Cymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n byw yn Lloegr, ond sy'n derbyn eu haddysg yng Nghymru.
  • Ariennir y tribiwnlys gan Lywodraeth Cymru, ond mae'r tribiwnlys, ei aelodau a'i benderfyniadau yn annibynnol ar y llywodraeth a’r awdurdodau lleol.
  • Mae dwy ran i'r tribiwnlys; yr ysgrifenyddiaeth a’r aelodau. Mae'r ddwy ran yn gweithio gyda'i gilydd yn ystod y broses apelio a hawlio, ond maent yn gwneud gwahanol waith. Rôl aelodau'r tribiwnlys yw gwrando a phenderfynu ar geisiadau. Rôl yr ysgrifenyddiaeth yw cyflawni dyletswyddau gweinyddol sy'n ymwneud â phrosesu achosion o apelio a hawlio.
  • Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw'n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Newidiwyd ei enw gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf 2018). Daeth y newid i rym ym mis Medi 2021.
  • Bydd Deddf 2018 yn newid y ffordd y caiff anghenion dysgu ychwanegol disgyblion eu diwallu mewn ysgolion a chyrff addysg eraill. Bydd yn disodli deddfwriaeth flaenorol am anghenion addysgol arbennig yn araf. Bob blwyddyn, bydd grŵp o flynyddoedd ysgol yn symud o'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) i'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd. Yn y flwyddyn gyntaf, bydd plant oedran meithrin yn cael eu cynnwys yn y system, ac yn y drydedd flwyddyn, bydd pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed yn cael eu cynnwys. Roedd y ddeddfwriaeth AAA ond yn cynnwys plant o oedran ysgol gorfodol.