Cyfarfodydd Grwpiau Defnyddwyr

Mae ein cyfarfodydd Grwpiau Defnyddwyr yn gyfle defnyddiol i’r Tribiwnlys gyfarfod ei gwsmeriaid, fel rheol cynrychiolwyr awdurdodau lleol, rhieni, cynrychiolwyr rhieni o’r sectorau annibynnol, gwirfoddola a chyfreithiol, yn ogystal â chyrff eraill gyda diddordeb cysylltiedig, fel Comisiynydd Plant Cymru.

Cynhelir y cyfarfodydd ar ffurf fforwm drafod anffurfiol agored.

Yn ogystal â thrafod polisi a rheoliadau gweithdrefnol y tribiwnlys, mae’r cyfarfodydd yn trafod materion ehangach hefyd. Yn aml bydd cynrychiolwyr Llywodraeth y Cynulliad yn mynychu’r cyfarfodydd ac yn rhoi’r newyddion diweddaraf am faterion polisi perthnasol.

Os hoffech gael eich cynnwys yn ein cyfarfodydd grwpiau defnyddwyr

Os hoffech gael eich cynnwys yn ein cyfarfodydd grwpiau defnyddwyr cysylltwch â ni os gwelwch yn dda a byddwn yn anfon gwahoddiad i chi i’r cyfarfod nesaf yn eich ardal.

Mae croeso i chi hefyd gysylltu os oes gennych unrhyw awgrymiadau am eitemau ar gyfer yr agenda neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Cylch Gorchwyl

Swyddogaethau

  • Galluogi cynrychiolwyr o’r Tribiwnlys a’i ddefnyddwyr i gyfarfod yn rheolaidd i drafod polisi perthnasol a materion eraill o ddiddordeb i’r Tribiwnlys a’i randdeiliaid.
  • Darparu fforwm ar gyfer trafodaeth deg ac agored, ond nid i drafod achosion unigol.

Gweithdrefnau

  • Cynnal cyfarfodydd unwaith neu ddwywaith y flwyddyn mewn lleoliadau rhanbarthol ar draws Cymru.
  • Anfonir gwahoddiadau i fynychu at gyrff rhanddeiliaid ac unigolion.
  • Bydd y Tribiwnlys yn darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y cyfarfodydd, bod yn gyfrifol am gymryd nodiadau, dosbarthu’r agenda a’r papurau cyn y cyfarfodydd, a gwneud trefniadau.

Cyfarfodydd sydd i ddod

Mae manylion y dyddiadau ar gyfer y gyfres nesaf o gyfarfodydd y grwpiau defnyddwyr i’w gweld isod:

  • Dydd Iau 21 Mawrth 2024 am 11.00 am - Gwesty Mercure, Caerdydd
  • Dydd Gwener 22 Mawrth 2024 am 2.00 pm - ar Teams