Ysgrifenyddiaeth ac aelodau

Mae dwy ran i’r Tribiwnlys: yr ysgrifenyddiaeth a’r aelodau. Mae’r ddwy ran yn gweithio gyda’i gilydd yn ystod y broses apelio a hawlio, ond maent yn gwneud gwahanol waith.

Yr ysgrifenyddiaeth

Yr ysgrifenyddiaeth sy’n gyfrifol am waith gweinyddol y Tribiwnlys. Yr ysgrifenyddiaeth fydd yn cofrestru eich apêl neu’ch hawliad, yn ysgrifennu atoch am ragor o wybodaeth, yn dweud wrthych pryd a lle mae eich apêl neu’ch hawliad yn mynd i gael ei glywed, ac yn gweithredu fel clerc yn eich gwrandawiad. Yr ysgrifennydd sy’n rheoli’r ysgrifenyddiaeth fel y pennaeth gweinyddol.

Ein nod yw darparu gwasanaeth defnyddiol a chyfeillgar o safon.

Cysylltwch â ni os na allwch ddarganfod beth rydych yn chwilio amdano ar y wefan hon neu os oes unrhyw beth yn aneglur.

Yr aelodau

Llywydd sydd yna yn ben ar Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC). Mae’r llywydd yn gyfrifol am yr aelodau ac am wneud rhai penderfyniadau neilltuol am apeliadau a hawliadau. Penodir llywydd y Tribiwnlys gan yr Arglwydd Ganghellor, a rhaid iddo/iddi fod yn fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr â saith mlynedd o brofiad o leiaf.

Caiff gwrandawiadau’r Tribiwnlys eu rheoli gan gadeirydd sydd hefyd â chymwysterau cyfreithiol. Bydd yn ysgrifennu ac yn llofnodi penderfyniadau, yn rhoi gwybod ichi am ohiriadau ac yn rhoi cyfarwyddiadau pan fo angen. 

Mae gan aelodau addysgol o’r panel rôl bwysig hefyd mewn gwrandawiadau. Mae’r aelodau hyn wedi’u dewis am eu gwybodaeth a’u profiad o blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd yr aelodau yn gofyn cwestiynau yn ystod eich gwrandawiad ac, ynghyd â’r cadeirydd, byddant yn gwneud penderfyniad am eich apêl neu eich hawliad. 

Mae nifer o’r aelodau yn siaradwyr Cymraeg rhugl a gallant glywed eich apêl yn Gymraeg neu yn Saesneg.