Adolygiadau
Os ydych yn credu bod problem dechnegol gyda'r penderfyniad, neu sut y bu i ni wneud y penderfyniad, gallwch ofyn i ni ei adolygu. Ni fyddwn yn adolygu ein penderfyniad am nad ydych yn hapus gydag ef.
Rhaid i ni dderbyn eich cais ysgrifenedig i'w adolygu o fewn 28 diwrnod ar ôl i ni gyhoeddi'r penderfyniad.
Gall y tribiwnlys wrthod derbyn cais i adolygu, neu ofyn am farn pob parti i wneud penderfyniad pellach. Os gwneir penderfyniad pellach, bydd hwnnw’n disodli’r penderfyniad cyntaf.
Apeliadau i’r Uwch Dribiwnlys
Os credwch fod y penderfyniad yn anghywir ar bwynt cyfreithiol gallwch apelio i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol).
I wneud hyn, yn gyntaf rhaid i chi wneud cais i ni am ganiatâd i apelio. Rhaid i ni dderbyn y cais am ganiatâd i apelio ddim hwyrach na 28 diwrnod o'r dyddiad ar y llythyr a anfonwyd atoch gyda'r penderfyniad.
Os na fyddwn yn rhoi caniatâd, gallwch ddal i wneud cais i'r Uwch Dribiwnlys am ganiatâd, ond ni fydd yn ystyried y cais oni bai eich bod yn gwneud cais i Dribiwnlys Addysg Cymru am ganiatâd yn gyntaf. Byddwch angen caniatâd i apelio naill ai gan Dribiwnlys Addysg Cymru neu'r Uwch Dribiwnlys cyn y gallwch gyflwyno'r apêl.
Gweler y llyfryn canllaw isod i gael gwybod mwy, neu defnyddiwch ein ffurflen os hoffech ofyn am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys.
Llyfrynnau canllaw
Caniatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys: Canllawiau. Mae ein llyfryn canllaw yn esbonio sut i wneud cais am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Caniatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys: Canllawiau - ETW22)
Ffurflenni
Caniatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys: Ffurflen gais. Llenwch ein ffurflen os hoffech ofyn am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Caniatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys: Ffurflen gais - ETW23)