Pwerau’r tribiwnlys

Unwaith bydd y Tribiwnlys wedi gwrando ar eich apêl neu’ch hawliad, ac wedi ystyried y dystiolaeth, bydd y panel yn gwneud penderfyniad ac yn cyhoeddi Gorchymyn. Mae’r llyfrynnau canllaw isod yn esbonio beth gall y Tribiwnlys ei orchymyn a beth na all ei orchymyn yn gyfreithiol.

Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch datganiad o AAA, mae’r apêl yn ddarostyngedig i reolau Anghenion Addysgol Arbennig. Darllenwch y canllawiau ar orchmynion apêl ar wefan y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig (TAAAC).

Mae TAAAC wedi newid ei enw. Tribiwnlys Addysg Cymru ydyw bellach. Ond nid yw’r rheolau newydd o ran anghenion dysgu ychwanegol yn berthnasol i bob plentyn. Os oes gan eich plentyn gynllun datblygu unigol (CDU), defnyddiwch y llyfryn canllaw isod ar orchmynion apêl.

Y llyfrynnau canllaw

Gorchmynion apêl

Mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol neu’r sefydliad addysg bellach i wneud yr hyn y mae’r Tribiwnlys yn ei orchymyn. Caiff gyfnod penodol o amser i gyflawni’r gorchymyn. Mae ein llyfryn canllaw (Gorchmynion apêl – TAC29) ar gael i’w lawrlwytho isod, neu os hoffech inni anfon copi atoch, cysylltwch â ni.

Gorchmynion hawliad

Mae dyletswydd ar y corff cyfrifol i wneud yr hyn y mae’r Tribiwnlys yn ei orchymyn. Caiff gyfnod penodol o amser i gyflawni’r gorchymyn. Mae ein llyfryn canllaw (Gorchmynion hawliad – TAC30) ar gael i’w lawrlwytho isod, neu os hoffech inni anfon copi atoch, cysylltwch â ni.