Apeliadau

Gall plant, eu rhieni a phobl ifanc apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn rhai penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol Cymru ynghylch anghenion dysgu ychwanegol.

Os ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc, efallai y bydd yr wybodaeth ar y dudalen Plant a Phobl Ifanc ar ein gwefan yn ddefnyddiol i chi. Gallwch ofyn i oedolyn eich helpu gyda’ch apêl.

Rhestr o ddolenni i’n holl lyfrynnau canllaw a’n ffurflenni yw’r Gofrestr Cyhoeddiadau. Lawrlwythwch nhw o’r wefan hon neu cysylltwch â ni os hoffech inni anfon copïau atoch drwy’r post. Bydd angen ichi anfon ffurflenni a gwblhewch drwy e-bost neu drwy’r post at Dribiwnlys Addysg Cymru.

Gallwch ddod o hyd i'r dogfennau hyn ar waelod y dudalen:

Ffurflenni

  • Cais am apêl Pan fydd awdurdod lleol neu sefydliad addysg bellach yn gwneud penderfyniadau penodol am anghenion dysgu ychwanegol rhywun, gall y plentyn neu’r person ifanc dan sylw wneud cais am apêl yn gofyn i Dribiwnlys Addysg Cymru ystyried y penderfyniad. Gall rhieni plant o oedran ysgol gorfodol hefyd wneud eu cais eu hunain. (Cais am apêl – Ffurflen TAC3) 
  • Tynnu apêl yn ôl. Cwblhewch ein ffurflen i roi gwybod i ni os ydych yn penderfynu nad ydych bellach am barhau â’ch apêl. (Ffurflen tynnu apêl yn ôl – Ffurflen TAC21)

Llyfrynnau canllaw

  • Canllaw ar sut i apelio. Mae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud apêl, terfynau amser pwysig ar gyfer gwneud yr apêl, y math o wybodaeth y mae angen i ni ei chael a beth sy'n digwydd ar ôl i'r apêl gael ei gwneud. (Canllaw ar sut i apelio – Llyfryn canllaw TAC2)
  • Canllaw ar baratoi datganiad achos ar gyfer apêl Ar ôl i chi wneud eich apêl, byddwn yn gofyn ichi adael i ni gael eich datganiad achos. Mae ein llyfryn canllaw yn esbonio sut mae paratoi datganiad achos a pha wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi i ni. (Canllaw i ymgeiswyr ar baratoi datganiad achos – Llyfryn canllaw TAC4)