Gwrandawiadau tribiwnlys

Fel arfer, bydd Tribiwnlys Addysg Cymru (TAC) am gael gwybod am yr apêl neu’r hawliad mewn gwrandawiad tribiwnlys.

Cynhelir gwrandawiadau fel arfer drwy gynhadledd fideo, felly bydd angen ichi gael mynediad i gyfrifiadur neu ffôn i ymuno. Mae hynny'n golygu y gallwch ymuno â'r gwrandawiad o'ch cartref, swyddfa, neu unrhyw le preifat sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd.

Mae'n bosibl cynnal gwrandawiadau yn bersonol hefyd, pan fydd amgylchiadau'n caniatáu hynny. Os hoffech i'ch gwrandawiad gael ei gynnal yn bersonol, gofynnwch i'r Tribiwnlys a byddwn yn ystyried y cais.

Byddwn ni’n gofyn i’r ddwy ochr roi gwybod pwy fydd yn dod gyda nhw i'r gwrandawiad. Byddwn ni bob amser yn rhoi gwybod i’r ddwy ochr yn ysgrifenedig beth yw enwau pawb a fydd yn bresennol yng ngwrandawiad y tribiwnlys, ynghyd â'r dyddiad a'r trefniadau ar ei gyfer.

Plant a phobl ifanc: efallai y bydd yr wybodaeth sydd ar y dudalen Plant a phobl ifanc ar ein gwefan yn ddefnyddiol hefyd. Os dymunwch, gallwch chi ofyn i oedolyn eich helpu i lenwi’r ffurflenni.

Gallwch chi lawrlwytho ein ffurflenni a’n llyfrynnau canllaw oddi ar y we drwy ddefnyddio’r dolenni isod, neu os ydych chi am inni anfon copi atoch, cysylltwch â ni.

Ffurflenni

  • Ffurflen presenoldeb i ymgeiswyr. Bydd angen i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen i roi gwybod inni pwy fydd yn dod gyda nhw i wrandawiad y tribiwnlys. (Ffurflen presenoldeb i ymgeiswyr – Ffurflen TAC15)
  • Ffurflen presenoldeb i ymatebwyr. Bydd angen i awdurdodau lleol, cyrff cyfrifol a sefydliadau addysg bellach lenwi ein ffurflen i roi gwybod inni pwy fydd yn dod gyda nhw i wrandawiad y tribiwnlys. (Ffurflen presenoldeb i ymatebwyr – Ffurflen TAC27)
  • Ffurflen hawlio treuliau. Ffurflen hawlio treuliau ar gyfer unrhyw unigolyn cymwys sy’n bresennol. (Ffurflen hawlio treuliau – Ffurflen TAC20)

Llyfrynnau Canllaw

  • Canllaw i ymgeiswyr ar lenwi’r ffurflen presenoldeb. Mae’r llyfryn canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth i helpu ymgeiswyr i lenwi eu ffurflenni presenoldeb. (Canllaw i ymgeiswyr ar lenwi’r ffurflen presenoldeb – Llyfryn canllaw TAC14)
  • Canllaw i ymatebwyr ar lenwi’r ffurflen presenoldebMae’r llyfryn canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth i helpu awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach a chyrff cyfrifol i lenwi ein ffurflen presenoldeb.(Canllaw i ymatebwyr ar lenwi ffurflen presenoldeb – Llyfryn canllaw TAC26)
  • Canllaw ar wrandawiadau. Mae’r llyfryn canllaw hwn ar gyfer pawb sy’n dod i wrandawiad tribiwnlys. Mae’n esbonio sut i baratoi, beth i’w ddisgwyl, ac yn cynnig awgrymiadau i wneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn esmwyth. (Canllawiau ar wrandawiadau – Llyfryn canllaw TAC16)
  • Canllaw i ymgeiswyr ar dreuliauLlyfryn canllaw ynghylch pa dreuliau y gall tystion yr ymgeiswyr eu hawlio. (Canllaw i ymgeiswyr ar dreuliau – Llyfryn canllaw TAC18)
  • Canllaw i dystion ar dreuliau. Llyfryn canllaw ynghylch pa dreuliau y gall tystion yr ymatebwyr eu hawlio. (Canllaw i ymatebwyr ar dreuliau – Llyfryn canllaw TAC19)