Hawliadau

Gall plant, eu rhieni, a phobl ifanc wneud hawliad ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgol i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC).
(Sylwch y dylai Hawliadau'n ymwneud â Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn erbyn Sefydliadau Addysg Bellach (SAB) gael eu gwneud i'r Llys Sirol.)

Os ydych chi'n blentyn neu'n berson ifanc, efallai y bydd yr wybodaeth ar y dudalen i blant a phobl Ifanc ar ein gwefan yn ddefnyddiol hefyd. Os dymunwch, gallwch chi ofyn i oedolyn eich helpu gyda’r hawliad.

Rhestr o ddolenni i’n holl lyfrynnau canllaw a’n ffurflenni yw’r Gofrestr Cyhoeddiadau. Lawrlwythwch nhw o’r wefan hon neu cysylltwch â ni os hoffech inni anfon copïau atoch drwy’r post. Bydd angen ichi anfon ffurflenni a gwblhewch drwy e-bost neu drwy’r post at Dribiwnlys Addysg Cymru.

Gallwch ddod o hyd i'r dogfennau hyn ar waelod y dudalen:

Ffurflenni

  • Cais am hawliad. Os ydych chi’n teimlo bod plentyn neu berson ifanc wedi cael ei drin yn annheg yn yr ysgol oherwydd anabledd, mae’r plentyn, ei rieni, neu’r person ifanc yn gallu gwneud cais am hawliad yn gofyn bod Tribiwnlys Addysg Cymru (TAC) yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd. (Cais am hawliad – Ffurflen TAC7)
  • Tynnu hawliad yn ôlLlenwch ein ffurflen i roi gwybod inni os ydych chi’n penderfynu nad ydych chi am barhau â’ch hawliad. (Ffurflen tynnu’n ôl – Ffurflen TAC21)

Llyfrynnau Canllaw

  • Canllaw ar hawliadauMae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud hawliad, terfynau amser pwysig ar gyfer gwneud hawliad, y math o wybodaeth y mae angen inni ei chael, a beth sy’n digwydd ar ôl i hawliad gael ei wneud. (Canllaw ar hawliadau – Llyfryn canllaw TAC6)
  • Canllaw i ymgeiswyr ar wneud datganiad achos yr hawliadAr ôl i chi wneud hawliad, byddwn ni’n gofyn ichi am eich datganiad achos. Mae ein llyfryn canllaw yn esbonio sut mae paratoi datganiad achos a pha wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi inni. (Canllaw i ymgeiswyr ar wneud datganiad achos yr hawliad – Llyfryn canllaw TAC8)