Awdurdodau Lleol a SAB

Byddwn ni'n hysbysu'r awdurdod lleol neu'r sefydliad addysg bellach pan fydd apêl wedi'i gwneud yn erbyn un o'u penderfyniadau. Byddwn ni hefyd yn egluro'r hyn y mae angen iddynt ei wneud.

Yng nghyd-destun y tribiwnlys, mae awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach yn cael eu hadnabod fel ymatebwyr gan fod yn rhaid iddynt ymateb i achos sy'n cael eu dwyn yn eu herbyn.

Mae'r llyfrynnau canllaw a'r ffurflenni isod ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach sydd wedi'u hawdurdodi gan eu sefydliadau i ymateb i geisiadau am apeliadau.

Os hoffech i lyfrynnau neu ffurflenni gael eu hanfon atoch drwy'r post, cysylltwch â ni.

Llyfrynnau canllaw

  • Canllaw i ymatebwyr ar baratoi datganiad achos apêl Llyfryn canllaw i awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach sy’n cynnwys gwybodaeth am sut i baratoi datganiad achos a’r hyn y mae’n rhaid ei gynnwys. (Canllaw i ymatebwyr ar baratoi datganiad achos apêl – Llyfryn canllaw TAC24)
  • Canllaw i ymatebwyr ar y ffurflen presenoldeb Llyfryn canllaw i awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach i esbonio’r ffurflen presenoldeb. Rhaid i bawb a fydd yn bresennol gael eu cynnwys ar y ffurflen hon er mwyn iddynt gael hawl i fod yn bresennol. (Canllaw i ymatebwyr ar y ffurflen presenoldeb – Llyfryn canllaw TAC26)
  • Ffurflen presenoldeb i ymatebwyr Ffurflen i awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach gael rhoi gwybod inni am bwy fydd yn bresennol yn y gwrandawiad ar eu hochr nhw. Rhaid cynnwys pawb ar y ffurflen er mwyn iddynt gael hawl i fod yn bresennol.  (Ffurflen presenoldeb i ymatebwyr – Ffurflen TAC27)