Bydd Tribiwnlys Addysg Cymru yn ysgrifennu at y corff cyfrifol i ddweud wrtho ein bod wedi cael hawliad am wahaniaethu ar sail anabledd sy’n ymwneud â’r ysgol. Fel arfer, y corff cyfrifol ydy bwrdd llywodraethwyr yr ysgol ac, mewn rhai achosion, yr awdurdod lleol.
Yng nghyd-destun y tribiwnlys, gelwir cyrff cyfrifol hefyd yn ymatebwyr gan fod yn rhaid iddynt ymateb i achos a ddygir yn eu herbyn.
Mae'r llyfrynnau canllaw a'r ffurflenni isod ar gyfer swyddogion cyrff cyfrifol sydd wedi'u hawdurdodi gan eu sefydliadau i ymateb i geisiadau hawlio.
Os hoffech gael llyfrynnau neu ffurflenni drwy'r post, cysylltwch â ni.
Llyfrynnau Canllaw
- Canllaw i ymatebwyr ar baratoi datganiad achos hawliad. Mae ein llyfryn canllaw ar gyfer cyrff cyfrifol yn cynnwys gwybodaeth am sut i baratoi datganiad achos a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys. (Canllaw i ymatebwyr ar baratoi datganiad achos hawliad – Llyfryn canllaw ETW25)
- Canllaw i ymatebwyr ar y ffurflen bresenoldeb. Llyfryn canllaw ar gyfer cyrff cyfrifol yn egluro’r ffurflen bresenoldeb. Rhaid i enwau’r rhai sydd am fod yn bresennol gael eu cynnwys ar y ffurflen hon i gael mynediad. (Canllaw i ymatebwyr ar y ffurflen bresenoldeb – Llyfryn canllaw ETW26)
Ffurflenni
- Ffurflen bresenoldeb i ymatebwyr. Ffurflen i gyrff cyfrifol i hysbysu pwy fydd yn bresennol yn y gwrandawiad o’u hochr nhw. Rhaid i’w henwau fod ar y ffurflen hon i gael mynediad. (Ffurflen bresenoldeb i ymatebwyr – Ffurflen ETW27)