Plant a phobl ifanc

Plant a phobl ifanc! Gallwch chi wneud eich apeliadau a’ch hawliadau eich hunain.

Bydd angen ichi lenwi ffurflen i roi gwybod inni eich bod chi am wneud apêl neu hawliad. Gallwch chi ofyn i oedolyn eich helpu, ond bydd angen ichi lofnodi'r ffurflen eich hunain. Cewch chi hyd i’r ffurflenni ar dudalennau gwe apeliadau a hawliadau'r wefan hon.

Help!

Os ydych chi'n gwneud eich apêl neu'ch hawliad eich hunain, mae'n syniad da cael eiriolwr wrth eich ochr. Gall eiriolwyr eich helpu i ddeall y system, eich cefnogi mewn cyfarfodydd, a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed bob amser. Dydyn nhw ddim yn rhan o'ch ysgol, na'ch awdurdod lleol, felly eich helpu chi yn unig yw eu gwaith nhw! Os ydych chi eisoes yn cael help gan oedolyn arall neu aelod o'r teulu, gallwch chi gael eiriolwr o hyd. Dylai eich ysgol a'ch awdurdod lleol allu eich rhoi chi mewn cysylltiad ag un.

Gallwch chi hefyd ddefnyddio ein dolenni i gysylltu â phobl eraill a allai helpu, fel Meic neu Gomisiynydd Plant Cymru.

Rydyn ni'n rhoi ein ffurflenni a'n llyfrynnau canllaw ar waelod pob tudalen we, ond gallwch chi weld rhestr lawn o ddolenni ar ein cofrestr o gyhoeddiadau.

Os oes angen help arnoch, os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os na allwch chi lawrlwytho ein ffurflenni a'n llyfrynnau, rhowch wybod inni. Gallwch chi gysylltu â ni drwy e-bost neu dros y ffôn.